Song of Solomon 2

Y ferch wrth ei chariad: 1Un blodyn saffrwn ar wastatir Saron
ydw i; dim ond lili fach o'r dyffryn.
Y cariad wrth y ferch:
2F'anwylyd, o'i gymharu â merched eraill
rwyt ti fel lili yng nghanol mieri.
Y ferch wrth ei chariad:
3Fy nghariad, o'i gymharu â dynion eraill
rwyt ti fel coeden afalau
yng nghanol y goedwig.
Mae'n hyfryd cael eistedd dan dy gysgod,
ac mae dy ffrwyth â'i flas mor felys.
Y ferch:
4Aeth â fi i mewn i'r gwindy
a'm gorchuddio â'i gariad.
5Helpwch fi! Adfywiwch fi
gyda ffrwythau melys ac afalau –
dw i'n glaf o gariad.
6Mae ei law chwith dan fy mhen,
a'i law dde yn fy anwesu.
7Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch
o flaen y gasél a'r ewig gwyllt:
Peidiwch trïo cyffroi cariad rhywiol
nes mae'n barod.

Yr Ail gerdd – Gwefr cariad

Y ferch:
8Ust! Fy nghariad sydd yna!
Edrychwch! Dyma fe'n dod,
yn llamu dros y mynyddoedd
ac yn neidio dros y bryniau
9fel gasél neu garw ifanc.
Mae yma! Yr ochr arall i'r wal!
Mae'n edrych drwy'r ffenest
ac yn sbecian drwy'r ddellt.
10Mae'n galw arna i:
“F'anwylyd, tyrd!
Gad i ni fynd, fy un hardd.
11Edrych! Mae'r gaeaf drosodd;
mae'r glaw trwm wedi hen fynd.
12Mae blodau gwyllt i'w gweld ym mhobman,
y tymor pan mae'r cread yn canu
a cŵan y durtur i'w glywed drwy'r wlad.
13Mae'r ffrwyth ar y coed ffigys yn aeddfedu
a'r blodau ar y gwinwydd yn arogli'n hyfryd.
F'anwylyd, tyrd!
Gad i ni fynd, fy un hardd.”
Y cariad:
14Fy ngholomen, rwyt o'm cyrraedd
o'r golwg yn holltau'r graig
a'r ogofâu ar y clogwyni!
Gad i mi dy weld
a chlywed dy lais;
mae sŵn dy lais mor swynol,
a'th olwg mor ddeniadol.
Y ferch:
15Daliwch lwynogod; y llwynogod bach
sydd am ddifetha gwinllannoedd –
a'n gwinllannoedd yn blodeuo.
16Fi piau nghariad, a fe piau fi;
mae e'n pori yng nghanol y lilïau.
17Tyrd, fy nghariad, hyd nes iddi wawrio
ac i gysgodion y nos ddiflannu –
bydd fel gasél neu garw ifanc
yn croesi'r hafnau rhwng y bryniau creigiog.
Copyright information for CYM